O hoelia 'meddwl ddydd a nos
O hoelia'm meddwl ddydd a nôs

1,2;  1,3,4,5.
(Dymuniad am gymdeithas â Duw)
O hoelia 'meddwl ddydd a nos,
Crwydredig wrth dy nefol groes
  A phlanna'm hyspryd yn y tir,
  Sy'n llifo o lawenydd clir.

Fe gaiff Dy enw uchel glod,
Pan ddarffo'r nef a'r ddaear fod,
  Am achub un mor wael ei lun,
  Na allsai'i achub ond Dy hun.

Nid yw pleserau penna'r byd,
Yn deilwng o fy serch a 'mryd:
  Un wên o eiddo Mhrynwr cu
  Sydd gan mil gwell
      na'r rhai'n yn llu.

Disgwyliaf nes
    del seren wawr,
Sy'n arwain hyfryd olau mawr;
  Fe gwid y wawr, mae addewid wir,
  Câf wel'd fy nghartre' cyn ho hir.

O tyred awr, O tyred ddydd,
I'm henaid i gael myn'd yn rhydd;
  Carcharor wyf mewn anial wlad,
  Sy'n disgwyl beunydd am ryddhad.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
  Pen-y-Bryn (W Owen)
Pool-street (<1829)
Ymlyniad (alaw Gymreig)

gwelir:
  Dewisaf Grist a'i farwol glwy'
  O Iesu mawr y Meddyg gwell
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw

(Request for fellowship with God)
O nail my thought day and night,
Wandering from thy heavenly cross
  And plant my spirit in the land,
  Which is streaming from clear joys.

The chief pleasures of the world are not,
Worthy of my affection and my mind:
  One smile belonging to my dear Redeemer
  Is a hundred thousand times better
      than a host of them.

I will wait until
    the star of the dawn comes,
Which is leading a delightful, great light;
  The dawn shall rise, the promise is true,
  I shall get to see my home before long.

O may the hour come, O may the day come,
For my soul to get to go free;
  A prisoner I am in a desert land,
  Who is waiting daily for freedom.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~